Y Cyflwynwyr yng Ngŵyl 2024

Mae Daniel Westover yn Athro Saesneg ac yn dal Cadair Llenyddiaeth ac Iaith ym Mhrifysgol Daleithiol Dwyrain Tennessee. Ef yw awdur R.S. Thomas: A Stylistic Biography a chyhoeddodd sawl erthygl ar waith y bardd. Llyfr diweddaraf Daniel yw The Fire that Breaks: Gerard Manley Hopkins’s Poetic Legacies. Bydd ei bennod ar flynyddoedd Hopkins yn y gogledd i’w gweld yn y gyfrol Gerard Manley Hopkins in Context. Roedd Daniel yn un o’r siaradwyr yng Ngŵyl 2018.

Mae Nicola Slee yn fardd a diwinydd sydd wedi cyhoeddi’n eang ym meysydd diwinyddiaeth ffeministaidd, ysbrydolrwydd a litwrgi. Mae’n gymrawd-athro ymchwil yn y Queen’s Foundation, Birmingham ac yn Athro Diwinyddiaeth Ymarferol Ffeministaidd yn VU, Amsterdam. Ymhlith ei gweithiau cyhoeddedig mae: Fragments for Fractured Times: What Feminist Practical Theology Brings to the Table ac Abba Amma: Improvisations on the Lord’s Prayer. Mae’n ysgrifennu pennod am y Parch Jim Cotter ar gyfer Anglican Spiritual Writers of the 20th Century sydd i’w gyhoeddi’n fuan.

Mae Nathan Munday yn weinidog dan hyfforddiant ac yn awdur. Yn ddiweddar, bu’n gofalu am Tŷ Mawr Wybrnant, lle ganwyd William Morgan a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg. Yn 2016 gorffennodd ei ddoethuriaeth ar yr Estheteg Gristnogol Gymreig a daeth yn ail yn y New Welsh Writing Awards â’i lyfr Seven Days: A Pyrenean Adventure. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Whaling, gan Seren yn 2023.
Gwefan: www.nathanmunday.com

Mae Hilary Davies wedi cyhoeddi pedwar casgliad o farddoniaeth a bu’n Gymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol yng Ngholeg y Brenin, Llundain (2012-6) ac yn y Llyfrgell Brydeinig (2018-9). Mae hefyd yn gyn-Gadeirydd Cymdeithas Farddoniaeth Prydain Fawr. Yn 2023 cyrhaeddodd restr fer gwobr Bardd Amgylcheddol y Flwyddyn Michael Marks. Mae wedi darlithio ac ysgrifennu ar y berthynas rhwng barddoniaeth a diwinyddiaeth yng ngwaith David Jones, G.M. Hopkins, Henry Vaughan, Thomas Traherne, Christina Rossetti ac Emily Dickinson. Mae ganddi 30 mlynedd o brofiad mewn ysgolion a phrifysgolion ac yn y Llyfrgell Brydeinig yn helpu graddedigion ac aelodau o’r cyhoedd ag ysgrifennu creadigol, yn ogystal ag arwain gweithdai ysgrifennu barddoniaeth.

Mae Mark Pryce yn fardd, yn offeiriad ac yn ddiwinydd ymarferol sy’n arbenigo yn ‘lle barddoniaeth mewn ysbrydolrwydd a gweinidogaeth Gristnogol’. Mae’n aelod o’r grŵp beirdd-ddiwinyddion eciwmenaidd The Diviners, mae’n Gyfarwyddwr Gweinidogaeth Esgobaeth Birmingham, ac yn Gaplan i’r Brenin. Mae’n ysgrifennu pennod am RS Thomas ar gyfer Anglican Spiritual Writers of the 20th Century sydd i’w gyhoeddi’n fuan. Roedd Mark yn un o’r siaradwyr yn ein Gŵyl yn 2022.

Mae Susan Fogarty yn un o sylfaenwyr Cymdeithas RS Thomas ac ME Eldridge a hi yw cyfarwyddwr y Gymdeithas sy’n hwyluso gwyliau barddoniaeth a chelfyddydau yn Aberdaron ers 2013. Mae’n arbenigo mewn darllen gwaith Thomas: gan arwain ei chynulleidfa i symud drwy’r farddoniaeth, mewn eglwysi ac yn yr amgylchedd naturiol. Yn 2022, aeth ati i gyd-greu gwefan ar fywyd a gwaith ME Eldridge. www.meeldridge.com