Rhaglen y Gŵyl 2024

Nos Iau 13 Mehefin

“Stations to the Untenanted Cross”
Susan Fogarty 19:30 – 20:30 £7
Eglwys Hywyn Sant LL53 8BE
Hyd at: 15 o bobl
Myfyrio ar farddoniaeth yng ngolau cannwyll – arferiad sydd â’i wreiddiau yn nhraddodiadau’r Pasg. Byddwn yn symud o le i le, gan gysylltu geiriau o gerddi RS Thomas â nodweddion eiconig yr eglwys hon sy’n gyrchfan i bererinion ers y canoloesoedd.

Dydd Gwener 14 Mehefin

Gweithdy Barddoni “Poetry & Spirituality”
Hilary Davies 10:00 – 15:30 £60
Hyd at: 10 o bobl Sarn y Plas, Y Rhiw

Bydd y gweithdy ysgrifennu, ym mwthyn y Thomasiaid, yn edrych i ddechrau ar ymateb gwahanol feirdd yn y traddodiad Cristnogol i gwestiwn ffydd bersonol ar hyd y canrifoedd. Yna, byddwn yn myfyrio ar y ffordd y gall barddoniaeth fynegi profiad ysbrydol, a pha agweddau y dymunwn ni ganolbwyntio arnynt cyn gweithio ar ein hymateb barddonol ni ein hunain i’r pwnc.

Spiritual Works of Art by M.E. Eldridge
Susan Fogarty 10:30 – 11:30 £7
Eglwys Hywyn Sant Aberdaron Hyd at: 30 o bobl
Ar gyfer y sgwrs hon, bydd 10 atgynhyrchiad o weithiau celf Elsie Eldridge yn cael eu harddangos yn yr eglwys. Bydd y sgwrs yn cyfeirio at ei dychymyg creadigol a hyblygrwydd ei harddull, gan ddangos ei gallu fel artist, darlunydd, a dylunydd ffenestri lliw.

“Ann heard Him speak, and Pantycelyn” – Anglican Ancestors in the work of R. S. Thomas.
Nathan Munday 14:00 – 15:15 £7
Y Clwb Hwylio, Aberdaron LL53 8BE

Hyd at: 45 o bobl
“Deuai i’m meddwl yn aml wrth wrando ar sŵn yr afon gyda’r nos, sawl rheithor oedd wedi gwneud yr un peth o’m blaen i, oblegid hen blwyf oedd Manafon,…”. Yn Y Llwybrau Gynt, mae R. S. yn myfyrio am Gwallter Mechain, offeiriad a bardd a fu ym Manafon o’i flaen. Gwallter, William Morgan, Ann Griffiths, a Phantycelyn – mae’r papur hwn yn mynd i’r afael â’r bodau ysbrydol hyn sy’n codi eu pennau yng nghorff gwaith R. S. Thomas. Mae’r rhan fwyaf yn Anglicaniaid; mae rhai’n annisgwyl.

Arwerthiant Llyfrau Casglwyr
Neuadd Ysgol Crud y Werin.
18:30 – 19:30

Casgliadau o farddoniaeth R. S. Thomas, gweithiau amdano, a chasgliadau sy’n cynnwys gwaith ganddo.

“The Vessel Dances in Her Disciplines” Hilary Davies
19:30 – 20:30 £7
Neuadd Ysgol Crud y Werin
Aberdaron LL53 8BP
Hyd at: 60 o bobl
Bydd yn darllen ac yn trafod pedwar dilyniant o’i cherddi sy’n archwilio, mewn gwahanol ffyrdd, natur ffydd bersonol a’i hymwneud ag amser a lle ysbrydol a diwinyddol. Gosodir hyn yng nghyd-destun pererindota; y Gwasanaeth Dwyfol; pedwar adeilad eglwysig fel pwyntiau ar gwmpawd ysbrydol, ac amser litwrgaidd yr offeren.

Dydd Sadwrn 15 Mehefin
£25 am Docyn Dydd 10:30 – 16:15 neu £10 am Docynnau Unigol
Neuadd Ysgol Crud y Werin LL53 8BP

R.S. Thomas: Poet & Spiritual Guide
Y Parch Ddr Mark Pryce
10:30 – 11:45 £10
Hyd at: 60 o bobl
Mae’r traddodiad Cristnogol yn dathlu barddoniaeth fel ffynhonnell hanfodol ysbrydoliaeth a maeth ysbrydol. Bydd Mark Pryce yn olrhain rhai o themâu ysbrydol allweddol barddoniaeth RS Thomas gan nodi ei fod yn llais blaenllaw yn ysbrydolrwydd Anglicanaidd Prydain yn yr ugeinfed ganrif.

Darlith Goffa Jim Cotter: (W)riting and Living a Sexual Spirituality Yr Athro Nicola Slee
13:30 – 14:45 £10
Hyd at: 60 o bobl
Roedd Jim Cotter yn byw, yn gweddïo, ac yn ysgrifennu oherwydd ei awydd i gyfuno’i rywioldeb hoyw â’i alwedigaeth fel offeiriad, gweinidog, ac athro, ac er mwyn herio’r eglwys i gydnabod natur rywiol ffydd. Bydd Nicola Slee yn archwilio’r ffordd roedd ei rywioldeb a’i ysbrydolrwydd yn cydblethu â’i gilydd, yn ei fywyd ac yn ei waith ysgrifennu, a sut y cyfrannodd y ffaith ei fod ar gyrion yr eglwys at ei alwedigaeth nodedig.

Edwin Muir & R. S. Thomas: Spiritual Endurance

Yr Athro Daniel Westover 15:00 -16:15 £10
Hyd at: 60 o bobl
Roedd Muir a Thomas yn genedlaetholwyr a gredai fod eu gwledydd wedi colli’u hunaniaeth hanfodol a’u hanfod ysbrydol dan bwysau diwydiant, mecaneiddio a chyfalafiaeth. Ceisiodd y ddau ddeffro’u gwledydd o’u cwsg-gerdded a’u difaterwch ysbrydol, ac roedd y ddau’n annog dygnwch a goroesi, gan osod hunaniaethau ysbrydol gwydn mewn tirweddau dychmygol. Bu cryn drafod ar ymwneud R. S. â’r Dadeni Albanaidd, ond mae dylanwad penodol Muir, sydd wedi’i esgeuluso hyd yn awr, yn haeddu sylw.

Trwy Dwll y Clo: Cipolwg y tu mewn i Sarn y Plas,
y Rhiw LL53 8AA
12:00 – 13:00 £am ddim
Hyd at: 10 o bobl
Cyfle i gael golwg o gwmpas bwthyn a gardd Sarn y Plas, cartref RS Thomas ac ME Eldridge ar ôl ymddeol. Yn 1964 rhoddodd y chwiorydd Keating brydles i’r teulu a daeth i ben yn 2016 pan fu eu mab Gwydion farw. Erbyn hyn, mae’r bwthyn wedi dychwelyd i stiwardiaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Arwerthiant Llyfrau Casglwyr
Neuadd Ysgol Crud y Werin

Casgliadau o farddoniaeth R. S. Thomas, gweithiau amdano, a chasgliadau sy’n cynnwys cerddi ganddo.

Chôr yr Heli a Gwenan Gibbard
“Poems from the Soul: Twelve of the Great Hymns of Wales”
Gyda’r awdur M Wynn Thomas 19:30 – 20:30 £9
Eglwys Hywyn Sant Hyd at : 100 of bobl

Sunday 16 June

Gwasanaeth Cymun Dwyieithog Eglwys Hywyn Sant
Archesgob Cymru Y Parchedicaf Andrew John
Pregethwr Yr Athro Nicola Slee
10:30 – 11:30
Hyd at: 100 o bobl
Angen cofrestru i gael lluniaeth.

Cinio Sul ar gyfer Aelodau Cymdeithas RS Thomas ac ME Eldridge
12:30 – 13:30 £20
Ystafell Fwyta Gwesty’r Llong
Ar gyfer pobl yr Ŵyl yn unig Hyd at: 30 o bobl
Cinio poeth hwyliog gyda rhai o Gyflwynwyr yr Ŵyl ac aelodau’r Bwrdd Cynghori. Dewis o Gyw Iâr Sawrus neu Dorth Gnau Rost gyda thatws rhost a llysiau. Rhaid bod yn aelod o Gymdeithas RS Thomas ac ME Eldridge.

Cerdded yn Ôl Traed RS Thomas
Susan Fogarty
13:30 – 15:30 £10
Hyd at: 15 o bobl
Dyma daith gerdded dair milltir sy’n cychwyn yn Eglwys Hywyn Sant ac yn dilyn llwybrau anwastad ar lannau afon Daron, trwy’r dyffryn dirgel lle byddai RS wedi cerdded, gan arwain at yr hen ficerdy. Byddwn yn aros yma a thraw i ddarllen rhai o’i gerddi.

Trwy Dwll y Clo: Cipolwg y tu mewn i Sarn y Plas,
y Rhiw LL53 8AA
12:00 – 13:00 £am ddim
Hyd at: 10 o bobl
Cyfle i gael golwg o gwmpas bwthyn a gardd Sarn y Plas, cartref RS Thomas ac ME Eldridge ar ôl ymddeol. Yn 1964 rhoddodd y chwiorydd Keating brydles i’r teulu a daeth i ben yn 2016 pan fu eu mab Gwydion farw. Erbyn hyn, mae’r bwthyn wedi dychwelyd i stiwardiaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.