Due to the Covid-19 pandemic, the 2020 Festival has been cancelled. We are planning to offer the same programme next year, 17th – 20th June 2021
Oherwydd argyfwng y firws Covid-19 mae’r Wyl eleni wedi ei chanslo. Ein gobaith yw y medrwn drefnu’r union un rhaglen y flwyddyn nesaf, Mehefin 17-20, 2021
2021 Festival
Time & Tide
17-20 June
The 7th annual Poetry & Arts Festival celebrates RS Thomas & ME Eldridge in the Welsh coastal village of Aberdaron where he was vicar and she an artist.
The first festival was held in 2014. Since then we have been honoured to welcome distinguished speakers from the United Kingdom and the United States, including our patron Rowan Williams, the former Archbishop of Canterbury. The festival has sponsored fresh expressions of the poetry and art for new audiences. Our festival location in Aberdaron on the Llŷn Peninsula enables people to experience first-hand the landscapes that inspired the poetry of Thomas and the art of Eldridge.
The Festival is now managed by the RS Thomas & ME Eldridge Society and is a key part of its mission to bring together people with an appreciation of the literary and artistic works, musical compositions, people and places associated with RS Thomas and ME Eldridge.
Full details of the Programme, Presenters and Booking are on this website.
RS Thomas Poetry Appreciation Group
Gŵyl 2021
Llanw a Threigl Amser
Mehefin 17 -20
Bydd 7ed Gŵyl flynyddol o Farddoniaeth a Chelf yn dathlu RS Thomas ac ME Eldridge yn cael ei chynnal yn Aberdaron, y pentref ym mhen draw Llŷn ble roedd ef yn ficer a hithau’n arlunydd.
Yn 2014 y cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf. Ers hynny mae wedi bod yn fraint croesawu siaradwyr enwog o’r Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau, gan gynnwys ein noddwr Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint. Mae’r ŵyl wedi noddi mynegi barddoniaeth a chelf ar eu newydd wedd ar gyfer cynulleidfaoedd newydd. Gyda’r ŵyl yn cael ei chynnal yn Aberdaron ym Mhen Llŷn, bydd pobl yn cael eu blas eu hunain ar y tirweddau a fu’n ysbrydoli barddoniaeth Thomas a chelf Eldridge.
Erbyn hyn mae’r Ŵyl yn cael ei rheoli gan Gymdeithas RS Thomas & ME Eldridge ac mae’n rhan allweddol o’i chenhadaeth i ddod â phobl ynghyd sy’n gwerthfawrogi’r gweithiau llenyddol ac artistig, y cyfansoddiadau cerddorol a’r bobl a lleoedd sy’n gysylltiedig ag RS Thomas ac ME Eldridge.
Mae manylion llawn am y Rhaglen, Cyflwynwyr a sut i Archebu ar y wefan hon.

St. Hywyn’s Church and the village of Aberdaron, Wales. Photograph by Tony Jones, www.llynlight.co.uk.
Watch this video introduction to Aberdaron!
Thanks to our sponsors!