Nos Iau 15 Mehefin
Stations to the Untenanted Cross
Susan Fogarty 19:30 – 20:30 £7
Eglwys Sant Hywyn
Hyd at: 15 o bobl
Cyfle i fyfyrio ar farddoniaeth yng ngolau cannwyll gan ddilyn arferiad sydd â’i wreiddiau yn nhraddodiadau’r Pasg. Byddwn yn symud o le i le yn yr eglwys, gan gysylltu geiriau o gerddi RS Thomas â’r nodweddion eiconig sydd yn y gyrchfan hynafol i bererinion, lle cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu “Here /on my knees in the stone / church, that is full only / of the silent congregation / of shadows and the sea’s /sound,….”
Dydd Gwener 16 Mehefin
Cerdded yn Ôl Traed RS Thomas Susan Fogarty
10:30 – 12:30 £10
Hyd at: 15 o bobl
Dyma daith gerdded dair milltir sy’n cychwyn yn Eglwys Sant Hywyn ac yn dilyn llwybrau anwastad ar lannau afon Daron, trwy’r dyffryn dirgel lle byddai RS yn cerdded, gan arwain at yr hen ficerdy. Byddwn yn aros yma a thraw i ddarllen ei gerddi.
Gweithdy Ysgrifennu Barddoniaeth Malcolm Guite
‘Finding Your Form’: how the constraints of poetic form can turn out to be liberating.
11:00 – 21:00 £60 Hyd at: 10 o bobl (tri lle ysbrydoledig)
Malcolm Guite: “Mae’n gysur mawr i mi bod yr holl eiriau a ddefnyddiaf yn hŷn ac yn ddoethach na mi. Rwy’n meddwl weithiau mai fy nhasg i yw, nid fy ngwthio fy hun ar y geiriau sy’n dod ataf wrth i mi ddechrau ysgrifennu, ond eu croesawu, eu gwneud yn gyfforddus, gwrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud, a gofyn iddyn nhw a oes geiriau eraill, ffrindiau iddyn nhw, a hoffai ymuno yn y parti. Mae fy nhasg i, sy’n fardd, wrth feddwl am ffurf a threfnu llinellau ac odlau, yn debyg i dasg rhywun sy’n trefnu lle i roi gwesteion i eistedd wrth y bwrdd bwyd er mwyn sicrhau’r sgwrs orau.”
Mae “Beirdd o Gwmpas y Tân” yn y Tŷ Crwn Celtaidd, Felin Uchaf, wedi’i gynnwys yn y pris a chewch ddewis cymryd rhan neu beidio. Mae’n gyfle i’r ysgrifenwyr a dau arweinydd y gweithdai rannu rhai o’u geiriau ysbrydoledig â chynulleidfa ehangach.
11:00-13:00 Sarn y Plas, y Rhiw
13:00-14:00 Cinio: dewch â bwyd neu brynu’n lleol
14:00-16:00 Felin Uchaf, Rhoshirwaun
19:30-21:00 Tŷ Crwn Celtaidd, Felin Uchaf
Gweithdy Ysgrifennu Barddoniaeth Phil Bowen
Man cychwyn: ‘On the Farm’ gan RS Thomas 11:00 – 21:00 £60Hyd at: 10 o bobl (tri lle ysbrydoledig)
11:00-13:00 Felin Uchaf, Rhoshirwaun
13:00-14:00 Cinio: dewch â bwyd neu brynu’n lleol
14:00-16:00 Sarn y Plas, y Rhiw
19:30-21:00 Tŷ Crwn Celtaidd, Felin Uchaf
Y man cychwyn fydd ‘On the Farm’ gan RS Thomas. Wedyn, canolbwyntir ar fanylion o feddwl ymwybodol y cyfranogwr ei hun – gan ddefnyddio atgofion, cysylltiadau, emblemau, a delweddau – teimladau personol y gellir eu gollwng wedyn i gerdd sy’n dangos yn hytrach na dim ond dweud. O gofio thema’r Ŵyl, Plentyndod, dyma rai cerddi i’w hystyried: Fern Hill – Dylan Thomas, I Remember, I Remember – Philip Larkin, In Mrs Tilscher’s Class – Carol Ann Duffy.
Mae “Beirdd o Gwmpas y Tân” yn y Tŷ Crwn Celtaidd, Felin Uchaf, wedi’i gynnwys yn y pris a chewch ddewis cymryd rhan neu beidio. Mae’n gyfle i’r ysgrifenwyr a dau arweinydd y gweithdai rannu rhai o’u geiriau ysbrydoledig â chynulleidfa ehangach.
Love the Disordered Man: Iain Crichton Smith, RS Thomas & childhood.
John Greening
14:00 – 15:15 £7
Y Clwb Hwylio, Aberdaron
Hyd at: 45 o bobl
Bydd John Greening, golygydd gwaith Iain Crichton Smith ar gyfer Carcanet, yn cyflwyno rhai o gerddi Smith ac yn ystyried ei fagwraeth yn siarad Gaeleg ar Ynys Lewis, gan wneud cymariaethau difyr iawn ag RS Thomas.
Sylwch: Nid oes modd mynd â chadair olwyn i’r ystafell i fyny’r grisiau yn y Clwb Hwylio.
Windblown: Recollections of Childhood in Aberdaron Joanne Rush
15:30 – 16:45 £7 Y Clwb Hwylio, Aberdaron Hyd at: 45 o bobl
Dyma sgwrs am eifr ffyrnig a chychod wedi llympio, cerddi rhydd a moch wedi torri’n rhydd, tonnau a geiriau. A hithau wedi’u magu mewn tref yn ne Lloegr ac ar fferm fechan ger Aberdaron, bydd Joanne Rush yn darllen o’i phamffled barddoniaeth cyntaf, Windblown, sy’n ystyried y llawenydd a ddaw o bethau bychan, ac ystyr cartref.Sylwch: Nid oes modd mynd â chadair olwyn i’r ystafell i fyny’r grisiau yn y Clwb Hwylio.
The Interpretation of Owls John Greening
19:00 – 20:00 £5 Porth y Swnt, canolfan ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Hyd at: 20 o bobl
Bydd John Greening yn darllen o’i gerddi dethol a gyhoeddwyd eleni gan Baylor University Press. Mae The Interpretation of Owls, a olygwyd gan Kevin Gardner, yn cynnwys gwaith o dros ugain o gasgliadau, sy’n ymestyn dros 45 o flynyddoedd, gan gynnwys ei ddau gasgliad diweddar gan Carcanet, a deunydd oedd heb ei gyhoeddi o’r blaen. Bydd copïau o’i lyfr ar werth yn Siop Lyfrau Eglwys Sant Hywyn
Beirdd o Gwmpas y Tân
Malcolm Guite, Phil Bowen, ac aelodau’r gweithdai ysgrifennu gyda Dafydd Davies Hughes ar y delyn.
19:30 – 21:00 £7
Tŷ Crwn Celtaidd, Felin Uchaf
Hyd at: 40 o bobl
Bydd Malcolm a Phil, ac aelodau eu gweithdai ysgrifennu creadigol, yn rhannu eu barddoniaeth a’u geiriau, gyda Dafydd yn canu’r delyn yn awyrgylch unigryw y Tŷ Crwn Celtaidd, gan alw i gof draddodiad barddol Cymru. www.felinwales.org
Dydd Sadwrn 17 Mehefin
£25 Tocyn Diwrnod 10:30 – 16:15
Neuadd Ysgol Crud y Werin
RS Thomas: Childhood represented in 20th century poetry.
Dr Sam Perry 10:30 – 11:45 Hyd at: 70 o bobl
Mae’n bleser gennym groesawu Sam Perry, awdur Chameleon Poet: RS Thomas and the Literary Tradition, yn ōl i’r ŵyl – bu’n siarad yng Ngŵyl 2018 hefyd. Daw thema’r ŵyl eleni, Plentyndod, yn uniongyrchol o waith ymchwil Sam dros bum mlynedd i’r ffordd y portreadir plentyndod ym marddoniaeth yr 20fed ganrif. Mae pennod yn ei lyfr a gyhoeddir cyn hir yn canolbwyntio ar RS Thomas.
Beatrix Potter, Elsie Thomas & Quentin Blake, Children’s Book Illustrators
John McEllhenney
13:30 – 14:45
Hyd at: 70 o bobl
Creodd Elsie Thomas, neu ME Eldridge, 369 o ddarluniau ar gyfer 13 o lyfrau plant, a gyhoeddwyd o fewn pedair blynedd, ar adeg pan oedd yn fam newydd, yn athrawes gelf ran-amser, ac yn wraig i ficer, sef y Parchg RS Thomas. Mae’r sgwrs ddarluniadol hon yn taflu goleuni ar amrediad ei gwaith celf, o luniau dyfrlliw o deuluoedd y goedwig, tebyg i luniau Beatrix Potter, i gartwnau yn arddull Quentin Blake – gallai chwalu’r rhwystrau rhwng darlunio a chelfyddyd gain.
“Intimations of Immortality from Recollections of Early Childhood”
15:00 -16:15 Hyd at: 70 o bobl
Arwerthiant Llyfrau Ail-law Neuadd yr Ysgol
Casgliadau o farddoniaeth RS Thomas, gweithiau am RS Thomas, a chasgliadau sy’n cynnwys gwaith gan RS Thomas. Llyfrau ar werth trwy’r dydd.
Trwy Dwll y Clo: Cipolwg y tu mewn i Sarn y Plas, y Rhiw
12:00 – 13:00 £ Am ddim
Hyd at: 10 o bobl [mae gofyn bwcio hyn ar wahân]
Cyfle i gael golwg o gwmpas bwthyn a gardd Sarn y Plas, tŷ gwyliau a man ymddeol RS Thomas ac ME Eldridge. Yn 1964 rhoddodd y chwiorydd Keating brydles iddynt a fyddai’n dod i ben pan fyddai eu mab Gwydion farw. Erbyn hyn, mae’r bwthyn wedi dychwelyd i stiwardiaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gweithio ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Cyngerdd: Dathliad o Blentyndod
Gwahanol Artistiaid
20:00 – 21:30 £9
Eglwys Sant Hywyn
Hyd at: 100 o bobl
Dydd Sul 18 Mehefin
Gwasanaeth Cymun Dwyieithog
Eglwys Sant Hywyn
Pregethwr: Malcolm Guite
10:30 – 11:30
Hyd at: 100 o bobl
Lluniaeth
Cinio Sul Aelodau’r Gymdeithas
12:15 – 1:30 £20
Hyd at: 30 o bobl
Ystafell Fwyta Gwesty’r Llong
Ar gyfer pobl yr Ŵyl yn unig
Cinio poeth hwyliog gyda Chyflwynwyr yr Ŵyl ac aelodau’r Bwrdd Cynghori. Dewis o Gyw Iâr Sawrus neu Dorth Gnau Rost gyda thatws rhost a llysiau.
Rhaid bod yn aelod o Gymdeithas RS Thomas ac ME Eldridge.
Trwy Dwll y Clo: Cipolwg y tu mewn i Sarn y Plas, y Rhiw
12:00 – 13:00 £ Am ddim Hyd at: 10 o bobl
Cyfle i gael golwg o gwmpas bwthyn a gardd Sarn y Plas, tŷ gwyliau a man ymddeol RS Thomas ac ME Eldridge. Yn 1964 rhoddodd y chwiorydd Keating brydles iddynt a fyddai’n dod i ben pan fyddai eu mab Gwydion farw. Erbyn hyn, mae’r bwthyn wedi dychwelyd i stiwardiaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gweithio ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Darlith Goffa Jim Cotter
Susan Fogarty
14:00 – 15:00 £7
Eglwys Sant Maelrhys, Porth Ysgo
Hyd at: 40 o bobl
Yn y ddarlith gyntaf, a noddir gan Ymddiriedolaeth Jim Cotter, bydd Susan Fogarty yn rhoi golwg bersonol i ni ar flynyddoedd olaf bywyd y Parchg Jim Cotter. Fel RS Thomas, Aberdaron oedd ei blwyf olaf ef ar ddiwedd ei weinidogaeth, roedd Jim hefyd yn saer geiriau crefftus, a’i gyhoeddiadau yw ei waddol. Pan gafodd Jim ddiagnosis o lewcemia yn 2011, newidiodd ei fywyd ef a Susan. Rhoddwyd corff Jim i orffwys ym mynwent Eglwys Sant Maelrhys yn 2014.