Cyflwynwyr Gŵyl 2023

Mae Malcolm Guite yn fardd ac yn offeiriad, ac mae’n Gymrawd Oes yng Ngholeg Girton, Caergrawnt. Mae’n darlithio’n eang yn Lloegr a Gogledd America ar Ddiwinyddiaeth a Llenyddiaeth. Cyhoeddodd lawer o lyfrau o’i farddoniaeth ei hun ar ffurf sonedau. Mae hefyd wedi cyhoeddi gwaith ar fywyd Samuel Coleridge Taylor.www.malcolmguite.wordpress.com

Mae Sam Perry yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Hull, a bu’n ymchwilio i’r berthynas rhwng barddoniaeth yr 20fed ganrif a Rhamantiaeth, gyda phwyslais arbennig ar Ted Hughes, RS Thomas a Philip Larkin. Chameleon Poet: R. S. Thomas and the Literary Tradition a gyhoeddwyd gan Perry oedd testun ei ddarlith yn ein Gŵyl yn 2018. Daw thema’r ŵyl eleni, Plentyndod, yn uniongyrchol o waith ymchwil Dr Perry dros bum mlynedd yn archwilio’r ffordd y portreadir plentyndod ym marddoniaeth yr 20fed ganrif. Mae pennod yn ei lyfr diweddaraf, a gyhoeddir yn fuan, yn canolbwyntio ar RS Thomas.

.

Ganed Phil Bowen yn Lerpwl yn 1949. Bu’n dysgu yn Ysgol Uwchradd New Heys o 1972 tan 1979. Ers 1994 bu’n fardd, yn ddramodydd, yn gofiannydd, yn gyfansoddwr geiriau caneuon, yn athro ac yn berfformiwr llawn amser, sydd wedi ymwneud â dros 600 o brosiectau ysgrifennu creadigol mewn ysgolion a grwpiau ysgrifennu i oedolion. Yn 2012 daeth i fyw yn Nyffryn Conwy lle mae’n cydweithio ag ysgolion, theatrau, gwyliau a grwpiau cymunedol. www.philbowen.co.uk

Mae Susan Fogarty, un o sylfaenwyr Cymdeithas RS Thomas ac ME Eldridge a’r cyfarwyddwr presennol, yn hwyluso digwyddiadau am RS Thomas yn Aberdaron ac ar-lein ers 2013. Mae’n arbenigo mewn darllen gwaith Thomas: gan arwain ei chynulleidfa i symud drwy’r farddoniaeth, mewn eglwysi ac yn yr amgylchedd naturiol. Mae’n cyd-arwain encilion RS Thomas gyda’i phartner John McEllhenney yn y Deyrnas Unedig ac America. Yn 2022, aeth ati i gyd-greu gwefan ar fywyd a gwaith ME Eldridge.www.meeldridge.com

Mae John Greening, sydd â dros ugain o gasgliadau barddoniaeth i’w enw, wedi ennill gwobrau Bridport a Cholmondeley. Mae wedi golygu gwaith Grigson, Blunden, a Crichton Smith ynghyd â blodeugerddi am gerddoriaeth, siediau a phlastai. Ymhlith ei lyfrau diweddaraf mae The Silence (Carcanet), The Interpretation of Owls: Poems 1977-2022 (golygydd, Kevin Gardner, Baylor) a chyfres o ysgrifau:  A High Calling (Broken Sleep).www.johngreening.co.uk

Mae Joanne Rush yn fardd, yn awdur straeon byrion ac mae wedi ysgrifennu ei nofel gyntaf. Cyhoeddir ei phamffled cyntaf o farddoniaeth, Windblown, gan Tiny Wren Press, ac fe gyhoeddwyd ei gwaith mewn casgliadau gan gynnwys Best British Stories, Northern Gravy, ac Orca Magazine. Mae gan Joanne PhD mewn llenyddiaeth o Brifysgol Caergrawnt ac mae wrthi’n gweithio ar ail PhD mewn ysgrifennu creadigol, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. www.joannerush.co.uk

Gweinidog gyda’r Methodistiaid oedd John McEllhenney o Pennsylvania cyn ymddeol a chafodd ei hyfforddi’n hanesydd. Mae wrth ei fodd â barddoniaeth a chelf, a ddechreuodd ddarllen cerddi RS Thomas yn 1973. Daeth i weld RS deirgwaith yn yr 1990au a chyhoeddodd A Masterwork of Doubting-Belief: R. S. Thomas and His Poetry yn 2013. Yn ddiweddar, trodd ei sylw at wraig RS Thomas, yr arlunydd Mildred Elsie Eldridge. Arweiniodd hyn at daith ymchwil i’r Eidal ym mis Hydref 2017, pan fu’n edrych ar weithiau celf y bu hi’n edrych arnynt yn 1934. Erbyn hyn, mae’n astudio ei darluniau ar gyfer llyfrau plant. Mae wedi cyd-greu gwefan am ei bywyd a’i gwaith. www.meeldridge.com www.doubtbeliefrsthomas.wordpress.com