Gwyddoniaeth | Diwinyddiaeth | Creadigaeth

Dr Grahame Davies CVO – bardd, nofelydd, golygydd a beirniad llenyddol toreithiog. Mae’n awdur 19 o lyfrau, Cymraeg a Saesneg, mewn gwahanol genres gan ennill nifer o wobrau yn cynnwys Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru. Seiliwyd ei gyfrol Sefyll yn y Bwlch ar y traethawd a enillodd PhD iddo o Brifysgol Cymru sef astudiaeth o’r mudiad gwrth-fodern fel y’i gwelir yng ngwaith R.S.Thomas, Saunders Lewis, T.S. Eliot a Simone Weil. Cafodd raddau D. Litt er Anrhydedd gan Brifysgol Anglia Ruskin a Phrifysgol Aberdeen, a theitl Athro Ymarfer er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mae’n Gymrawd er Anrhydedd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ac yntau’n frodor o Wrecsam, mae’n teithio’r byd i ddarllen ei waith a darlithio, mae’n mwynhau comisiynau barddoniaeth, ac mae’n ysgrifennu geiriau ar gyfer rhai o brif gyfansoddwyr clasurol y byd.

Professor Helen Wilcox – Athro Emerita mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor. Mae wedi cyhoeddi llawer o waith am farddoniaeth a rhyddiaith grefyddol y cyfnod modern cynnar, ac am lenyddiaeth gan ferched. Bu’n darlithio ar bum cyfandir ar farddoniaeth ddefosiynol Saesneg o’r unfed ganrif ar bymtheg i’r unfed ganrif ar hugain. Hi yw golygydd y gyfrol arbennig English Poems of George Herbert ac mae’n cydweithio â Mark Oakley i baratoi’r Cambridge Companion to Devotional Poetry. Mae’n Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Professor Wilson Poon – Athro Athroniaeth Naturiol ym Mhrifysgol Caeredin, lle mae’n astudio llif hylifau trwchus fel siampŵ a siocled tawdd, ynghyd â phrosesau ffisegol sylfaenol mewn organebau byw, yn enwedig sut maent yn marw. Ac yntau’n Gristion, bu’n rhan o’r ddadl gwyddoniaeth-crefydd ers blynyddoedd ac mae’n dysgu’r pwnc yn Ysgol Diwinyddiaeth y brifysgol. Rai blynyddoedd yn ôl, helpodd i sefydlu modiwl yn edrych ar y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd trwy lygaid llenyddiaeth. Mae gan Poon ddiddordeb arbennig yn y ffordd mae beirdd yn archwilio’r berthynas gymhleth hon.

Dr Joanna Penberthy – hyfforddwyd hi yn St John’s, Nottingham a St John’s Durham a’i haddysgu ym Mhrifysgolion Nottingham a Chaergrawnt. Bu’n gweinidogaethu, yn ddi-dâl ac am gyflog, yn Nhaleithiau Lloegr a Chymru gan ddechrau pan wnaed hi’n ddiacones gan yr Esgob David Jenkins yn ei wasanaeth Ordeinio cyntaf yn 1984. Wedi hynny bu’n gweinidogaethu fel Diacon, Swyddog Taleithiol, Offeiriad Plwyf, Warden Darllenwyr ac Esgob Tyddewi. Yn 2019 cwblhaodd ei PhD mewn ffiseg cwantwm gyda thraethawd â’r teitl Reading the “Paradoxical Book of Bell”: A case study in theology and science. Erbyn hyn, mae Joanna a’i gŵr, Adrian Legg, yn mwynhau eu hymddeoliad.

Yr Athro W. Richard Bowen – Cymrawd o Academi Frenhinol Peirianneg. Mae ganddo raddau hefyd yn y gwyddorau ffisegol (Rhydychen) a diwinyddiaeth (Cymru). Mae’n ymddiddori’n arbennig yn y ddealltwriaeth o gynlluniau cysyniadol. Ymhlith ei gyhoeddiadau mae astudiaethau o farddoniaeth Dannie Abse, Anne Cluysenaar, John Ormond, R.S. Thomas and Vernon Watkins. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar y berthynas rhwng gwyddoniaeth a ffydd, a’r defnydd o beirianneg i hybu heddwch a lles. Mae Gwasg Prifysgol Zhejiang wedi cyhoeddi fersiwn Tsieinëeg o’i lyfr Engineering Ethics: Challenges and Opportunities.

Mandir Dighe – cwblhaodd ei MSc mewn Gwyddoniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Caeredin yn 2024, ar ôl ennill ei BA mewn Athroniaeth a Seicoleg o Brifysgol Mumbai. Mae ganddi ddiddordeb dwfn mewn profiadau cyfriniol a’r cysylltiad rhwng gwyddoniaeth ac athroniaeth. Roedd ei thraethawd Meistr, y bydd yn ei gyflwyno yn y gynhadledd, yn canolbwyntio ar R. S. Thomas fel cyfrinydd gwyddoniaeth. Trwy ei hymchwil, mae Mandir yn archwilio’r cysylltiadau dwfn rhwng ymholi gwyddonol ac ymholi ysbrydol, gan gynnig syniadau am ffyrdd y gallant ategu ei gilydd.

Roedd Meyrick Alexander yn Brif Chwaraewr Baswn Cerddorfa’r Philharmonia am 30 mlynedd, cyn hynny bu’n aelod o’r BBC Northern Symphony Orchestra a’r Northern Sinfonia. Ar hyn o bryd, mae’n chwarae’r brif ran gyda’r London Chamber Orchestra ac mae wedi chwarae gyda bron pob cerddorfa yn y DU. Mae wedi chwarae a recordio fel unawdydd ar sawl achlysur ledled y byd ac mae wedi chwarae ar draciau sain nifer o ffilmiau nodwedd a rhaglenni teledu.

Mae Sarah Newbold yn aelod o Academy of St Martin in- the- Fields a’r New London Orchestra, ac yn flaenorol o Opera Cenedlaethol Cymru a London Philharmonic. Fel chwaraewr llawrydd, mae hi’n gweithio’n rheolaidd gyda’r rhan fwyaf o’r cerddorfeydd ym Mhrydain Fawr ac mae’n aelod o Cardiff Winds a’r Alvor Ensemble. Mae addysgu’n chwarae rhan bwysig ym mywyd cerddorol Sarah, mae hi wedi bod yn athro ffliwt yn y Guildhall School of Music and Drama ers 1989 a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2011.

Ganed Therese Urbanska ym 1980 a chafodd ei magu ar Benrhyn Llŷn. Ar ôl graddio o Goleg Menai, Bangor gyda BA (Anrh) mewn Celf Gain, gweithiodd fel arlunydd ar ei liwt ei hun a dechreuodd weithio i Goleg Harlech (WEA) a chynnal gweithdai ar gyfer oedolion a phlant. Mae ei phaentiadau a’i gludweithiau wedi’u hysbrydoli gan Benrhyn Llŷn, a Chymru.

Mae Siân Eleri Thomas yn diwtor cyswllt y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd gyda MTh mewn barddoniaeth RS Thomas. Mae ei diddordebau ysgolheigaidd yn canolbwyntio ar y themâu diwinyddol sydd wedi’u plethu o fewn barddoniaeth Thomas a’i gyfraniad sylweddol i’r traddodiad barddol Cymraeg. Mae hi’n angerddol am archwilio’r cysylltiadau rhwng ffydd, iaith a’r byd naturiol yng ngwaith Thomas, ac mae’n mwynhau rhannu ei mewnwelediadau ag eraill.

Mae Susan Fogarty yn un o sylfaenwyr Cymdeithas RS Thomas ac ME Eldridge a hi yw cyfarwyddwr y Gymdeithas sy’n hwyluso gwyliau barddoniaeth a chelfyddydau yn Aberdaron ers 2013. Mae’n arbenigo mewn darllen gwaith Thomas: gan arwain ei chynulleidfa i symud drwy’r farddoniaeth, mewn eglwysi ac yn yr amgylchedd naturiol. Yn 2022, aeth ati i gyd-greu gwefan ar fywyd a gwaith ME Eldridge. http://www.meeldridge.com

Mae Terry Duffy yn aelod angerddol o ddiaspora Cymry a Gwyddelod Lerpwl. Dechreuodd archwilio barddoniaeth RS Thomas yn yr 1980au – ystyr y cerddi, eu neges a’u perthnasedd i’r estheteg ddiwylliannol. Bu ‘Triptych RS Thomas’ yn gefnlen i’r achlysur i goffáu RS Thomas yn 2001 yn yr Academi Gymreig yng Nghaerdydd. Mae wedi arddangos yn rhyngwladol ac mae ei waith, o’r darnau haniaethol aruchel i’r darnau lled-ffigurol, yn mynd i’r afael â materion fel apartheid, bod yn ddioddefwr, cymod, hunaniaeth ddiwylliannol a mwy.

Bardd sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng pobl, lle a byd natur yw Mary Robinson. Bu’n ddarlithydd mewn llenyddiaeth Saesneg yn Cumbria. Yn ei harddegau a’i hugeiniau roedd yn nabod y chwiorydd Keating ym Mhlas yn Rhiw ac RS Thomas. Mae dylanwad Llŷn, lle mae’n byw erbyn hyn, i’w weld yn drwm ar ei chasgliad diweddaraf o farddoniaeth, Cynefin, a ysgrifennwyd yn Saesneg. Mae wedi ennill gwobrau barddoniaeth Mirehouse a Second Light. Cyhoeddwyd ei cherddi mewn llawer o gylchgronau barddoniaeth a blodeugerddi.