Cyflwynwyr 2019

Rowan Williams Archesgob Caergaint (2002 – 2012) yw Meistr Coleg Magdalen, Caergrawnt. Yn ddiwynydd, awdur, eglwyswr, Cymro a bardd o fri, uchelfannau ei yrfa yw: Gradd Doethur mewn Diwinyddiaeth, Rhydychen; Cymrawd a Deon Coleg Clare, Caergrawnt; Athro yr Arglwyddes Margaret mewn Diwinyddiaeth, Rhydychen; Esgob Mynyw (1992 – 2000) ac Archesgob Cymru (2000 – 2002). Mae ei lyfr The Poems of Rowan Williams (2002), ei deyrnged er cof am R S Thomas o’r enw “Deathship”, yn agor gyda’r llinellau sy’n sôn am RS yn ei ymddeoliad, yn byw yn ei fwthyn yn edrych dros y môr. “The last years, words from a window / smoothing the sea, / the iron back and forth / to probe the fugitive wrinkles”

ROWAN WILLIAMS YN CYFLWYNO: O FEWN THEMA’R ŴYL

Mae’r ŵyl wrth ei bodd yn croesawu’r Dr Williams yn ôl fel ein noddwr a siaradwr yn 2019. Does dim amheuaeth y bydd ‘Ysbryd o Le’, thema’r ŵyl eleni a awgrymwyd gan Menna Elfyn, yn rhoi llwyfan addas i Dr Williams lansio’i syniadau.

 

Menna Elfyn Bardd a dramodydd arobryn. Cyhoeddodd bedair cyfrol ar ddeg o farddoniaeth, nofelau i blant, libretti i gyfansoddwyr amrywiol yn ogystal â dramâu ar gyfer teledu a radio. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Bondo , o wasg Bloodaxe ac fe fydd yn cael ei chyhoeddi yn yr Eidaleg yn 2019 . Eisoes, cyfieithwyd ei gwaith i dros ugain o ieithoedd.

Ysgrifennodd nifer o gerddi teyrnged i RS yn ogystal â’r libretto ‘ Emyn i Gymro’ gyda’r cyfansoddwr Pwyll ap Siôn. Perfformiwyd y gwaith gyntaf ym Mhortmeirion yn 2001 gyda’r delynores Elinor Bennett.

Cyhoeddodd Optimist Absoliwt, sef bywgraffiad o’r bardd Eluned Phillips yn 2016 ac ymddangosodd y gyfrol Saesneg yn 2018.Yn 2018 ymddangosodd Cennad , cyfrol sy’n llên-gofiant. Mae’n Athro Barddoniaeth, yn Llywydd Wales PEN Cymru ac wedi bod yn golofnydd gyda’r ‘Western Mail ‘ ers 1994

MENNA ELFYN: YSBRYD Y TIR: GWEITHDY YSGRIFENNU CREADIGOL

‘Gall adnabod dim ond un cae neu dir fod yn brofiad oes’ Ac eto, nid yw’r man lle rydym yn byw ynddo bob amser yn diffinio pwy ydyn ni. Yn y gweithdai hyn, byddwn yn ceisio archwilio rhythm y tir a’i ysbryd o’n cwmpas gan weld beth sydd yn ysbrydoli ein dychymyg drwy ysgrifennu. Fel yr oedd RS Thomas ei hun yn ysgrifennu am leoedd fel Abercuawg.

Cyfle i ysgrifennu’r byd yn newydd danlli– gallwch fod yn awdur, bardd neu’n un sy’n dyheu am ysgrifennu barddoniaeth neu rhyddiaith. A gall dyhead yn wir — greu gwyrthiau !

 

Astudiodd Sandra Anstey lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Reading cyn symud i Brifysgol Cymru, Abertawe i orffen ei hastudiaeth PhD ar waith RS Thomas. Bu’n athrawes Saesneg ac yn olygydd adolygiadau Poetry Wales (1980-1990). Ym 1989 dechreuodd weithio mewn arholiadau ac asesu. Mae wedi golygu nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys Critical Writings on RS Thomas , RS Thomas: Selected Prose. Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Cymdeithas Gelf Gyfoes Cymru.

AIL YMWELD AG RS THOMAS: TRWY EI FARDDONIAETH, RHYDDIAETH A SGYRSIAU

Cysylltodd Sandra ag RS Thomas am y tro cyntaf pan oedd yn fyfyriwr israddedig. Aeth i’w weld yn Aberdaron ac yn Rhiw a’i gyfweld fel rhan o’i hastudiaethau am ddoethuriaeth. Bu’r ddau’n gohebu am flynyddoedd. Bydd ei sgwrs yn cyfeirio at ddeunydd heb ei gyhoeddi hefyd.

 

Mae Ted Harrison yn awdur, yn gyn gyflwynydd ar Radio 4, yn gyn ohebydd Materion Crefyddol y BBC ac mae ganddo PhD mewn Diwinyddiaeth. Ddeng mlynedd yn ôl newidiodd ei yrfa gan benderfynu gweithio fel arlunydd gweledol ac bu’n astudio am MA yn y Celfyddydau Cain. Ers hynny mae llawer o’i waith yn trafod yr hyn y mae’n ei alw’n ‘ddiwinyddiaeth weledol’. Mae’n defnyddio ystod eang o gyfryngau gan gynnwys paent, golosg, llechen ysgythrog, cerfluniaeth ddur gerfiedig a gwrthrychau y mae’n eu darganfod. Mae wedi cynnal arddangosfeydd mewn nifer o eglwysi cadeiriol: Llandâf, Dewi Sant, Caerloyw, Norwich a St Paul, Llundain. Mae’i cerfluniau muriau yn mawrygu rhoddwyr organau i’w gweld yn Ysbytai Guy’s a St Thomas, Llundain. http://www.tedharrison.co.uk

‘…. HIS ARE THE ECHOES WE FOLLOW …’

Daw teitl yr arddangosfa o gerdd fer RS Thomas ‘Via Negativa’. Mae’n sôn am Dduw fel y distawrwydd gwag ‘y lle ble byddwn ni’n mynd i chwilio’.

Mae’r delweddau’n cyfleu’r lleoedd ym mywyd y bardd ble yr aeth ef ei hun yno i ‘chwilio’: morlin Ynys Cybi yn fachgen; Bangor ble roedd yn fyfyriwr; y plwyfi ble bu’n gwasanaethu fel offeiriad; Aberdaron a Phenrhyn Llŷn.

Y cyfrwng yw golosg – yn briodol, cynnyrch coed naturiol a thân.

 

Mae Nick Fisher, rheithor yn Eglwys Lloegr yn gwasanaethu pum plwyf yn y Cotswolds. Mae ganddo ddoethuriaeth mewn llenyddiaeth Saesneg a diwinyddiaeth ac mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar farddoniaeth bardd yr Adferiad, Rochester. Bydd ei astudiaeth o Esgob Symon Patrick (1626 – 1707) yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

WORD: GWAITH CORAWL GAN FRANCIS POTT, WEDI’I GOMISIYNU GAN NICK FISHER

Mae WORD yn ceisio ail ddehongli ‘Prolog’ anhygoel Sant Ioan ar gyfer ein cyfnod ôl fodern (Ioan 1.1-14) gyda llinellau RS Thomas yn cael eu gweu i’r crynodeb. Mae’i farddoniaeth adamantaidd yn asio’n berffaith gyda rhyddiaith caeth yr efengylwr. Mae’r ddau yn uno’n wych gyda’i gilydd drwy sensitifrwydd, deallusrwydd a gonestrwydd cerddoriaeth Francis Pott. Chwaraeir recordiad o WORD yn cael ei ganu gan Commotio o Gaergrawnt.

 

Côr Meibion Carnguwch Fe’i sefydlwyd fis Hydref 2016 o dan arweiniad Ann ‘Hafod’ Williams, sydd wedi perfformio ac wedi cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd maith. Mae’r côr yn unigryw yn yr ardal ac yn denu dynion ifanc o bob rhan o Benrhyn Llŷn.

CYNGERDD YSBRYD ABERDARON

Bydd yn cynnwys repertoire o ganeuon Cymreig wedi’u cyfansoddi am bobl, tirwedd a digwyddiadau Aberdaron ynghyd â barddoniaeth Gymraeg a ysgrifennwyd ac a berfformir gan Menna Elfyn.

 

Susan Fogarty Hi yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Cymdeithas R S Thomas ac M Eldridge sydd wedi hyrwyddo digwyddiadau ynghylch R S Thomas yn Aberdaron a mannau eraill ers 2013. Mae’n arbenigo ar ddarllen gwaith R S Thomas: yn annog ei chynulleidfa i symud drwy’r cerddi, mewn eglwysi ac yn yr awyr agored. Mae wedi ysgrifennu erthyglau i’r Church Times, Faith & Freedom a Christians Aware. Ers 2015, mae’n arweinydd Journeying, yn tywys pobl ar wyliau cerdded gyda bwriad ysbrydol.

STATIONS: PILGRIMAGE TO THE UNTENANTED CROSS myfyrdod drwy farddoniaeth wrth olau cannwyll gyda’i wreiddiau yn nhraddodiad y Pasg. Symud dros y tir sanctaidd, cysylltu geiriau R S Thomas gyda’r nodweddion eiconig y tu mewn i’r man pererindota hynafol, lle cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu “Here on my knees in the stone church, that is full only of the silent congregations of shadows and the sea’s sound…”

CERDDED ÔL TROED R S THOMAS

Cychwyn yn Eglwys Sant Hywyn, mae’r daith gerdded hawdd hon yn arwain heibio’r hen ficerdy at y llwybr ‘dirgel’ a gerddai R S Thomas i osgoi ymwelwyr! Bydd sawl ennyd ar y ffordd i ddarllen rhai cerddi dethol. Ceir golygfeydd o fynydd Anelog ar y ffordd dawel yn ôl i Aberdaron.

Mae’n rhaid gwisgo esgidiau cadarn

 

Mae Peter Hewlett yn drysorydd Cymdeithas RS Thomas ac ME Eldridge. Astudiodd hanes yng Ngholeg Fitzwilliam Caergrawnt, treuliodd ei oes waith fel masnachwr coed yn Nottingham ac erbyn hyn mae’n rhedeg busnes gwyliau a llety cerdded yn Aberdaron. Mae ganddo wybodaeth ddofn am hanes Penrhyn Llŷn a synnwyr byw o sut y mae peth o farddoniaeth RS Thomas yn cysylltu â lleoedd yr ardal.

YSBRYD LLŶN: TAITH BWS MINI – Yn cychwyn o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Aberdaron ac yn syth i fyny i bentir Mynydd Mawr, gyda golygfeydd anhygoel at Enlli. Ar y ffordd i lawr, pasio’r Ficerdy adfeiliedig ble oedd Thomas yn byw pan oedd yn ficer Aberdaron. Yna i fyny i fryniau dwyreiniol Sarn y Plas, edrych dros Borth Neigwl ble oedd ef ac Elsi’n byw ar ôl ymddeol. I lawr at eglwys Llanfaelrhys ble mae Elsi a Gwydion wedi’u claddu, cyn dychwelyd i Aberdaron ac eglwys Hywyn Sant. Bydd barddoniaeth Thomas yn cael ei ddarllen yn y tirwedd, sy’n gyforiog o ddelweddau sy’n ymddangos yn y gwaith. [Dim ond ychydig o gerdded fydd yna]

 

Barry Morgan yw cyn Archesgob Cymru ac mae’n Noddwr Cymdeithas R S Thomas ac M E Eldridge. Cyhoeddodd “Strangely Orthodox: RS Thomas and his Poetry of Faith” yn 2006. Dim ond ar ôl i R S Thomas ymddeol ac yn byw yn Sarn Plas y cyfarfu’r ddau, pan oedd y Parchedig Morgan yn Archddiacon ac yna’n Esgob Bangor.