Dydd Iau 16 Mehefin
Arddangosfa: Llanw a Threigl Amser
Dane Briscoe & Liz Mellor
Eglwys St Hywyn’s
Am Wythnos
“Stations to the Untenanted Cross” Susan Fogarty 19:30 – 20:30 £5
Eglwys St Hywyn’s
Terfyn:20 o bobl
Myfyrdod drwy farddoniaeth wrth olau cannwyll gyda’i wreiddiau yn nhraddodiad y Pasg. Symud dros y tir sanctaidd, cysylltu geiriau R S Thomas gyda’r nodweddion eiconig y tu mewn i’r man pererindota hynafol, lle cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu “Here on my knees in the stone church, that is full only of the silent congregations of shadows and the sea’s sound…”
Dydd Gwener 17 Mehefin
Ysgrifennu Gyda’n Gilydd: Geiriau a Dŵr
Philip Gross
11:00 – 21:00 £60
Eglwys St Hywyn, Aberdaron
11:00-13:00
Bwthyn Sarn Plas, Y Rhiw.
14:00-16:00
Ty Crwn, Felin Uchaf
19:30-21:00
Terfyn:15 o bobl
Mae dŵr wedi bod yn bresennol erioed ym marddoniaeth Philip Gross – Môr Hafren yng ngherdd arobryn Gwobr T.S Eliot Water Table, afon Taf yn A Fold in the River ac, yn ei gasgliad newydd Between the Islands, y môr. Am fwy na 30 mlynedd, mae Phillip wedi bod yn agor drysau i ysgrifennu i bobl o bob oed ac unrhyw lefel o brofiad.
Bydd y bore’n cychwyn yn Eglwys Hywyn Sant o fewn golwg i fôr ‘tragwyddol’ ac eto hollol gyfnewidiol R S Thomas i drafod sut y gallwn ni ddefnyddio geiriau, a’r mannau rhwng geiriau i ddod yn fwy ymwybodol o’r byd o’n cwmpas a’r tu fewn i ni. Bydd sesiwn y prynhawn yn Sarn Plas, y bwythyn yr oedd RS Thomas ac ME Eldrige yn byw ynddo ar ôl ymddeol.
‘Bydd “Beirdd o Gwmpas y Tân” yn y Tŷ Crwn, Felin Uchaf gyda’r nos yn gyfle i’r ysgrifenwyr a Phillp rannu rhai o’u geiriau ysbrydoledig.
Cerdded yn ôl troed RS Thomas
Susan Fogarty
10:30 – 12:30 £10
Terfyn:15 o bobl
Cychwyn yn Eglwys Sant Hywyn, mae’r daith gerdded hawdd hon yn arwain heibio’r hen ficerdy at y llwybr ‘dirgel’ a gerddai R S Thomas i osgoi ymwelwyr! Bydd sawl ennyd ar y ffordd i ddarllen rhai cerddi dethol. Ceir golygfeydd o fynydd Anelog ar y ffordd dawel yn ôl i Aberdaron.
Edrych tu mewn Bwythyn Sarn Plas
12.30 – 13.30 Am Ddim
Terfyn: 10 o bobl
Tirwedd Barddoniaeth Engl-Gymreig: RS Thomas yn 2020
Mark Pryce
14:00 – 15:45 £10
Clwb Hwylio, Aberdaron
Terfyn : 50 o bobl
Gan dynnu ar wreiddiau’i deulu yng Nghymru a’r Gororau, bydd Mark yn cyflwyno darlleniad o farddoniaeth RS Thomas yng nghwmni beirdd Engl-Gymreig megis George Herbert, Wilfred Owen, David Jones, Saunders Lewis, Dylan Thomas, Lynette Roberts, Ruth Bidgood a Rowan Williams. Pa themâu a fydd yn ymddangos yn y ‘caneuon o’r bryniau’, wrth i ni wrando ar farddoniaeth gweddi, natur, cymuned, cariad a rhyfel?
Edrych tu mewn Bwthyn Sarn Plas
16:15 – 17:00 Am ddim
Terfyn: 10 o bobl
Beirdd o Gwmpas y Tân
Philip Gross,
Ffion Wood, Telynores
Ian M Parr, 19:30 – 21:00 £7
Tŷ Crwn, Felin Uchaf
Terfyn :50 o bobl
‘Bydd “Beirdd o Gwmpas y Tân” yn y Tŷ Crwn, Felin Uchaf gyda’r nos yn gyfle i’r ysgrifenwyr a Phillp rannu rhai o’u geiriau ysbrydoledig. www.felinwales.org
Dydd Sadwrn 18 Mehefin
£25 Tocyn y Diwrnod 10:15 – 16:15
Neuadd Ysgol Crud y Werin
Tony Brown
10:15 – 10:30
Sawl tro ddydd Sadwrn, bydd yna sesiynau byr (tua 10 munud) o ddarllen yn ddwys rai o gerddi unigol R S Thomas – rhai adnabyddus, rhai llai adnabyddus – i ystyried sut y mae ystyr cerddi Thomas yn deillio’n rhannol o’r technegau barddonol y mae’n eu defnyddio.
Llanw a Thrai Ffydd R S Thomas Mark Oakley
10:30– 12:15 Mae’r ŵyl wrth ei bodd yn croesawu Marc Oakley yn ôl fel un o aelodau bwrdd y Gymdeithas ac a oedd yn siaradwr yng Ngŵyl 2017. ‘Llanw a Threigl Amser’ yw thema’r ŵyl eleni a bydd Mark yn archwilio sut y mae llanw a thrai ffydd yn cael ei fynegi ym marddoniaeth Thomas ac yn ein profiad ni sy’n cael ein cyffwrdd yn ddwfn gan ei eiriau.
Edrych tu mewn Bwythyn Sarn Plas
12.30 – 13.30 Am Ddim
Terfyn: 10 o bobl
Darllen y Cerddi
Tony Brown
13:45 -14:00
Sawl tro ddydd Sadwrn, bydd yna sesiynau byr (tua 10 munud) o ddarllen yn ddwys rai o gerddi unigol R S Thomas – rhai adnabyddus, rhai llai adnabyddus – i ystyried sut y mae ystyr cerddi Thomas yn deillio’n rhannol o’r technegau barddonol y mae’n eu defnyddio.
‘Bring on the dancing girls’: Golwg ar Waith RS Thomas
Manon Ceridwen James
14:00 – 15:45
Yn y gerdd Perspectives mae Thomas yn disgrifio moderniaeth, gan gyfeirio at beilonau trydan, fel ‘merched dawnsio’r dyfodol’. Mae Manon Ceridwen James yn priodoli ei ymadrodd i siarad am gyfraniad Thomas i draddodiad yr offeiriad barddol, a sut y mynegir y traddodiad byw hwn heddiw. Bydd peth o hyn yn cael ei dynnu o’i hymchwil ei hun a’i gwaith i’r rôl y mae crefydd yn ei chwarae wrth lunio hunaniaethau benywaidd Cymreig. Bydd hi’n archwilio sut mae’r traddodiad hwn, dros amser, yn llywio ein dealltwriaeth o’r Eglwys yng Nghymru yn ei blwyddyn Canmlwyddiant.
Y Dyfodol: Bwythyn Sarn Plas
Laura Hughes,
Rheolwr profiad ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Tony Brown, Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Astudio R S Thomas
16:00 -16:30
Buffet Cinio & Gwin Aelodau
Cymdeithas RS Thomas & ME Eldridge
18:30 – 19:30 £10
Porth y Swnt
Terfyn: 30 o bobl
Mared Emlyn, Telynores
20:00 – 21:30 £8
Eglwys St Hywyn
Cafodd Emyn i Gymro ei chyfansoddi fel teyrnged i R S Thomas ar ôl ei farwolaeth yn y flwyddyn 2000. Menna Elfyn a gyfansoddodd y geiriau a’r gerddoriaeth, Gillian Clarke â’u cyfieithodd i’r Saesneg a Phwyll ap Siôn a gyfansoddodd y gerddoriaeth i’r delyn a gafodd ei berfformio gan Eleanor Bennet ym Mhortmeirion yn 2001. Hwn fydd y trydydd perfformiad gyda Mared Emlyn fel unawdydd ar y delyn.
Dydd Sul 19 Mehefin
Gwasanaeth Cymun : Dathlu Canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru
09:30 – 10:30 dwyiaithog
Eglwys St Hywyn
Terfyn: 100 o bobl
Bydd y Gwir Barchedig John Davies yn arwain gwasanaeth o addoli a phregethu, gyda’r Hybarch Andrew Jones yn Eglwys Hywyn Sant i ddathlu canmlwyddiant sefydlu’r Eglwys yng Nghymru a’r 60 mlynedd o weinidogaeth R S Thomas. Bydd y Gwasanaeth Ewcharistaidd yn ddwyieithog, fel arfer.
WORD
Francis Pott
11:30 – 12:30 £3
Eglwys St Hywyn
Terfyn: 100 o bobl
Dilyniant yw WORD o fyfyrdodau cerddorol ar yr Efengyl yn yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer corau cymysg a’r organ, gan osod gyda’i gilydd adnodau o Ragair Sant Ioan a cherddi R S Thomas.
Bydd Francis yn rhannu ei syniadau ynghylch heriau cyfansoddi’r gwaith hwn, yn enwedig defnyddio canu rhydd Thomas gyda geiriau Efengyl Ioan.
Cafodd ei pherfformio gan Commotio yng Ngholeg Keeble, Caergrawnt fis Medi 2018 a’i recordio fis Mawrth 2019 ar gyfer ei rhyddhau yn yr haf 2020. Mae Francis yn ddiolchgar i rai aelodau Cymdeithas RS Thomas ac ME Eldridge am noddi’n bersonol y recordiad o WORD. [Naxos 8.573976]
Edrych tu mewn Bwythyn Sarn Plas
12.30 – 13.30 Am Ddim
Terfyn: 10 o bobl
Llanw a Threigl Amser: Aros am yr Aderyn Prin
Jon Gower
14:00 – 15:30 £7
Eglwys St Maelrhys, Porth Ysgo.
Terfyn: 50 o bobl
Nid gwyliwr adar cyffredin oedd R S Thomas, roedd yn arbenigwr oedd yn gallu enwi adar prin a fyddai’n digwydd glanio yn ei blwyf. Fel mae ei gerdd Sea-Watching yn awgrymu, mae adar o’r fath – sy’n ‘ymddangos pan nad yw neb yn edrych’ – bron yn rhithiol, fel Duw, ac mae’r weithred o wylio adar yn debyg i weddi. Bydd Jon yn trafod RS Thomas fel naturiaethwr a chadwriaethiwr, yn rhannu ei ohebiaeth gyda ysgrifenwyr a gwylwyr adar eraill ac yn darganfod y gwahanol rywogaethau – rhai chwedlonol, rhai gwirioneddol, sy’n hedfan drwy gerddi RS.
Edrych tu mewn Bwythyn Sarn Plas
16.00 – 17.0 Am Ddim
Terfyn: 10 o bobl