Cyflwynwyr 2020

Philip Gross sydd wedi cyhoeddi dros ugain o gasgliadau o farddoniaeth, gan gynnwys The Water Table a enillodd Wobr T S Eliot yn 2009 a chasgliad newydd Between the Islands o Bloodaxe fis Mawrth 2020. Derbyniodd Wobr Cholmondeley yn 2017 a chyrhaeddodd ei gasgliad i bobl ifanc yn seiliedig ar wyddoniaeth Dark Sky Park (Otter-Barry, 2018) restr fer gwobr CLiPPA. Mae’n gydweithiwr brwd e.e. gyda’r artist Valerie Coffin Price ar A Fold in the River (Seren, 2015), gyda’r bardd Lesley Saunders ar A Part of the Main (Mulfran, 2018) ac, ar hyn o bryd, gyda’r bardd Cymraeg Cyril Jones. www.philipgross.co.uk

Ysgrifennu Gyda’n Gilydd: Geiriau a Dŵr

Mae dŵr wedi bod yn bresennol erioed ym marddoniaeth Philip Gross – Môr Hafren yng ngherdd arobryn Gwobr T.S Eliot Water Table, afon Taf yn A Fold in the River  ac, yn ei gasgliad newydd Between the Islands, y môr. Am fwy na 30 mlynedd, mae Phillip wedi bod yn agor drysau i ysgrifennu i bobl o bob oed ac unrhyw lefel o brofiad.

Bydd y bore’n cychwyn yn Eglwys Hywyn Sant o fewn golwg i fôr ‘tragwyddol’ ac eto hollol gyfnewidiol R S Thomas i drafod sut y gallwn ni ddefnyddio geiriau, a’r mannau rhwng geiriau i ddod yn fwy ymwybodol o’r byd o’n cwmpas a’r tu fewn i ni. Bydd sesiwn y prynhawn yn Sarn Plas, y bwythyn yr oedd RS Thomas ac ME Eldrige yn byw ynddo ar ôl ymddeol.

Bydd “Beirdd o Gwmpas y Tân” yn y Tŷ Crwn, Felin Uchaf gyda’r nos yn gyfle i’r ysgrifenwyr a Phillp rannu rhai o’u geiriau ysbrydoledig.

Mark Pryce yw Cyfarwyddwr Gweinidogaeth Esgobaeth Birmingham ac mae’n Gaplan i’r Frenhines. Yn wreiddiol o Gymru, gwasanaethodd Mark fel Curad a Chaplan Ysbyty yn West Bromwich, mae’n Gymrawd a Deon Capel Coleg Corpus Christi, Caergrawnt ac yn Ficer Smethwick Old Church. Mae’n aelod o The Diviners, grŵp o feirdd diwinyddol ac yn gyd-awdur Making Nothing Happen [2017]. Mae’n darlithio’n rheolaidd ar The Welsh Poet-Priests [gan gynnwys RS Thomas] ac yn archwilio’r cysylltiadau rhwng barddoniaeth, ysbrydolrwydd ac ymarfer y weinidogaeth. Ei lyfr diweddaraf yw Poetry, Practical Theology & Reflective Practice. [2019]

Tirwedd Barddoniaeth Engl-Gymreig: RS Thomas yn 2020

Gan dynnu ar wreiddiau’i deulu yng Nghymru a’r Gororau, bydd Mark yn cyflwyno darlleniad o farddoniaeth RS Thomas yng nghwmni beirdd Engl-Gymreig megis George Herbert, Wilfred Owen, David Jones, Saunders Lewis, Dylan Thomas, Lynette Roberts, Ruth Bidgood a Rowan Williams. Pa themâu a fydd yn ymddangos yn y ‘caneuon o’r bryniau’, wrth i ni wrando ar farddoniaeth gweddi, natur, cymuned, cariad a rhyfel?

Mark Oakley yw Deon Coleg Sant Ioan, Caergrawnt ac mae’n gyn ganon preswyl Eglwys Gadeiriol St Paul’s (Llundain). Gwasanaethodd fel Rheithor St Paul yn Covent Garden (elgwys yr actorion); mae’n Ddirprwy Offeiriad Mygedol i’w Mawrhydi’r Frenhines ac yn Ddarlithydd Gwadd yng Ngholeg y Brenin, Llundain ac yn Ysgolor Gwadd yng Ngholeg Sarum, Salisbury. Mae’i ysgrifau a’i ddarllediadau’n archwilio barddoniaeth, ysbrydolrwydd a hawliau dynol. Daeth ei lyfrau The Collage of God (2001) a The Splash of Words: Believing in Poetry (2016), a enillodd Wobr Michael Ramsey 2019 am ysgrifau diwinyddol, i frig rhestr The Church Times fel y ddau lyfr sy’n gwerthu orau ynghyd â 50 o’i bregethau By Way of the Heart [2019]. Ei lyfr diweddaraf yw My Sour-Sweet Days: George Herbert and the Journey of the Soul (2019).

Llanw a Thrai Ffydd R S Thomas

Mae’r ŵyl wrth ei bodd yn croesawu Marc Oakley yn ôl fel un o aelodau bwrdd y Gymdeithas ac a oedd yn siaradwr yng Ngŵyl 2017.  ‘Llanw a Threigl Amser’ yw thema’r ŵyl eleni a bydd Mark yn archwilio sut y mae llanw a thrai ffydd yn cael ei fynegi ym marddoniaeth Thomas ac yn ein profiad ni sy’n cael ein cyffwrdd yn ddwfn gan ei eiriau.

Manon Ceridwen James oedd un o’r merched cyntaf i gael eu hordeinio yn yr Eglwys yng Nghymru. Cafodd ei magu ym Mhen Llyn a Chymraeg yw ei hiaith gyntaf,. Hi yw Deon Hyfforddiant Cychwynnol Gweinidogion Athrofa Padarn Sant, yn gyfrifol am hyfforddi gweinidogion lleyg ac ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru. Cyhoeddwyd ei barddoniaeth yn Poetry Wales, Envoi, Under the Radar ac Obsessed with Pipework. Hi yw awdur Women, Identity and Religion in Wales [2018] ac mae hefyd wedi cyfrannu sawl pennod i lyfrau ar farddoniaeth, diwinyddiaeth ac ymchwil ffeministaidd.

Dewch â’r merched sy’n dawnsio ymlaen: golwg ar waith RS Thomas

Yn y gerdd Perspectives mae Thomas yn disgrifio moderniaeth, gan gyfeirio at beilonau trydan, fel ‘merched dawnsio’r dyfodol’. Mae Manon Ceridwen James yn priodoli ei ymadrodd i siarad am gyfraniad Thomas i draddodiad yr offeiriad barddol, a sut y mynegir y traddodiad byw hwn heddiw. Bydd peth o hyn yn cael ei dynnu o’i hymchwil ei hun a’i gwaith i’r rôl y mae crefydd yn ei chwarae wrth lunio hunaniaethau benywaidd Cymreig. Bydd hi’n archwilio sut mae’r traddodiad hwn, dros amser, yn llywio ein dealltwriaeth o’r Eglwys yng Nghymru yn ei blwyddyn Canmlwyddiant.

Jon Gower oedd gohebydd y celfyddydau a’r cyfryngau BBC Wales ac mae’n awdur tri deg o lyfrau. Enillodd ei The Story of Wales, a oedd yn cydfynd â’r gyfres deledu nodedig An Island Called Smith Wobr Ysgfrif Teithio John Morgan am An Island Called Smith. Enillodd Y Storïwr Wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru. Mae wedi gwneud dwy raglen ynghylch ei gydymaith gwylio adar achlysurol, RS Thomas, yn enwedig yr un ar Radio 3, R.S Thomas: Always Seeking Greater Silence [2013], a oedd yn defnyddio cyfweliadau a wnaed wrth wylio adar yng nghartref y bardd ym Môn yn niwedd y 1990’u. https://www.bbc.co.uk/programmes/b01r5n6g

Llanw a Threigl Amser: Aros am yr Aderyn Prin

Nid gwyliwr adar cyffredin oedd R S Thomas, roedd yn arbenigwr oedd yn gallu enwi adar prin a fyddai’n digwydd glanio yn ei blwyf. Fel mae ei gerdd Sea-Watching yn awgrymu, mae adar o’r fath – sy’n ‘ymddangos pan nad yw neb yn edrych’ – bron yn rhithiol, fel Duw, ac mae’r weithred o wylio adar yn debyg i weddi. Bydd Jon yn trafod RS Thomas fel naturiaethwr a chadwriaethiwr, yn rhannu ei ohebiaeth gyda ysgrifenwyr a gwylwyr adar eraill ac yn darganfod y gwahanol rywogaethau – rhai chwedlonol, rhai gwirioneddol, sy’n hedfan drwy gerddi RS.

Tony Brown, mae’n Athro Emeritws yn Ysgol y Saesneg ym Mhrifysgol Bangor ac mae’n Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Astudio R S Thomas. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ym maes ysgrifennu am Gymru yn Saesneg. Roedd yn olygydd cyntaf y cylchgrawn Welsh Writing in English: A Yearbook of Critical Essays (1995-2007). Mae wedi cyhoeddi ar R S Thomas am dros tua deng mlynedd ar hugain gan gynnwys R S Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru, 2006 a 2013). Gyda Jason Walford Davies, cyhoeddodd Uncollected Poems (2013) a Too Brave to Dream (2016) gan R S Thomas.

Darllen y Cerddi Sawl tro ddydd Sadwrn, bydd yna sesiynau byr (tua 10 munud) o ddarllen yn ddwys rai o gerddi unigol R S Thomas – rhai adnabyddus, rhai llai adnabyddus – i ystyried sut y mae ystyr cerddi Thomas yn deillio’n rhannol o’r technegau barddonol y mae’n eu defnyddio.

Cwblhaodd Mared Emlyn ei doethuriaeth mewn perfformio ar y delyn a chyfansoddi yn 2014 ym Mhrifysgol Bangor gydag ysgoloriaeth wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd. Bu’n astudio cyfansoddi gyda’r Athro Pwyll ap Siôn a’r delyn gydag Elinor Bennett, yn ogystal â chael gwersi ychwanegol yn Swistir a Canada.

Mae Mared wedi derbyn sawl comisiwn i gyfansoddi, gan gynnwys gweithiau ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Côr Meibion Colwyn, comisiwn ar gyfer Gŵyl Gerdd Bangor a gafodd ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a concerto telyn ar gyfer Gŵyl Biwmares a berfformiwyd gan y Gerddorfa Siambr Gymreig a Mared ei hun fel yr unawdydd. Yn 2018, cydweithiodd â’r cerddor Gwenan Gibbard a’r bardd Mererid Hopwood ar gomisiwn gan Ŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y telynor adnabyddus Osian Ellis yn 90 oed.

Cyngerdd: Emyn i Gymro – Hymn to a Welshman Concert

Cafodd Emyn i Gymro ei chyfansoddi fel teyrnged i R S Thomas ar ôl ei farwolaeth yn y flwyddyn 2000. Menna Elfyn a gyfansoddodd y geiriau a’r gerddoriaeth, Gillian Clarke â’u cyfieithodd i’r Saesneg a Phwyll ap Siôn a gyfansoddodd y gerddoriaeth i’r delyn a gafodd ei berfformio gan Eleanor Bennet ym Mhortmeirion yn 2001. Hwn fydd y trydydd perfformiad gyda Mared Emlyn fel unawdydd ar y delyn.

Mae gan John Beynon ddiddordeb gydol oes mewn barddoniaeth ac ymwneud â hi, o astudio academaidd ac ysgrifennu yn ei arddegau a’i ugeiniau cynnar i ymgysylltu’n fwy sylweddol ers ymddeol fel ymarferydd gyda phlant sydd ag anghenion arbennig cymhleth a dwys. Mae’n aelod o Cannon Poets ym Mirmingham ac yn cyfrannu at eu cyfnodolyn, yn ogystal â helpu i hwyluso mentrau barddoniaeth gymunedol. Mae’n mwynhau darllen ei waith ei hun mewn digwyddiadau lleol ac, weithiau yng Nghaerdydd.

Ar ôl treulio ei blentyndod a’i ieuenctid ym Mro Morgannwg ac Abertawe, mae wedi cael ei dynnu i’r ardal hon, gwlad Cymru a’i hunaniaeth Gymreig yn ei ysgrifennu. Wrth werthfawrogi gwaith y bardd dros nifer o flynyddoedd, mae wedi dod yn hwyr ond yn llawen i ddealltwriaeth lawnach o RS Thomas, ac i gymryd rhan ym mywyd y Gymdeithas.

Cyngerdd: Emyn i Gymro – Hymn to a Welshman Concert

Bydd John Beynon yn darllen rhai o’r cerddi yn Gymraeg gyda Menna Elfyn.

Susan Fogarty Hi yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Cymdeithas R S Thomas ac ME Eldridge sydd wedi hyrwyddo digwyddiadau ynghylch R S Thomas yn Aberdaron a mannau eraill ers 2013. Mae’n arbenigo ar ddarllen gwaith R S Thomas: yn annog ei chynulleidfa i symud drwy’r cerddi, mewn eglwysi ac yn yr awyr agored. Mae wedi ysgrifennu erthyglau i’r Church Times, Faith & Freedom a Christians Aware. Ers 2015, mae’n arweinydd Journeying, yn tywys pobl ar wyliau cerdded gyda bwriad ysbrydol.

Stations:Pilgrimage to the Untenated Cross

Myfyrdod drwy farddoniaeth wrth olau cannwyll gyda’i wreiddiau yn nhraddodiad y Pasg. Symud dros y tir sanctaidd, cysylltu geiriau R S Thomas gyda’r nodweddion eiconig y tu mewn i’r man pererindota hynafol, lle cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu “Here on my knees in the stone church, that is full only of the silent congregations of shadows and the sea’s sound…”

Cerdded ôl troed RS Thomas

Cychwyn yn Eglwys Sant Hywyn, mae’r daith gerdded hawdd hon yn arwain heibio’r hen ficerdy at y llwybr ‘dirgel’ a gerddai R S Thomas i osgoi ymwelwyr! Bydd sawl ennyd ar y ffordd i ddarllen rhai cerddi dethol. Ceir golygfeydd o fynydd Anelog ar y ffordd dawel yn ôl i Aberdaron.

Cyngerdd: Emyn i Gymro – Hymn to a Welshman Concert

Bydd Susan Fogarty’n darllen cyfieithiad Saesneg o farddoniaeth Menna Elfyn.

John Davies a gafodd ei ethol yn Archesgob Cymru yn 2017. Fe’i ganed yng Nghasnewydd, Sir Fynwy, graddiodd yn y Gyfraith o Brifysgol Southhamton, symudodd i Goleg y Gyfraith yng Nghaer a chafodd ei dderbyn fel cyfreithiwr ym 1977 gan arbenigo mewn cyfraith droseddol. Yn ei amser hamdden, roedd yn organydd ac yn gorfeistr. Ar ôl ei ordeinio ym 1984, cwblhaodd radd Meistr mewn Cyfraith Ganonaidd a bu’n gwasanaethu mewn plwyfi yn Esgobaeth Mynwy. Cafodd ei benodi’n Ddeon Aberhonddu yn 2000 a’i ethol yn Esgob Brycheiniog ac Abertawe yn 2008. Yn Esgob Arweiniol yr Eglwys ar faterion Cymdeithasol, mae â diddordeb penodol mewn trin ac ailsefydlu troseddwyr ac mewn gofal iechyd, yn enwedig ar gyfer y rhai yn eu blynyddoedd ar derfyn oes.

Dathlu Canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru

Bydd y Gwir Barchedig John Davies yn arwain gwasanaeth o addoli a phregethu, gyda’r Hybarch Andrew Jones yn Eglwys Hywyn Sant i ddathlu canmlwyddiant sefydlu’r Eglwys yng Nghymru a’r 60 mlynedd o weinidogaeth R S Thomas. Bydd y Gwasanaeth Ewcharistaidd yn ddwyieithog, fel arfer.

Francis Pott yw athro cyfansoddi Prifysgol Gorllewin Llundain sydd wedi datblygu enw rhyngwladol fel cyfansoddwr yn ystod y deg mlynedd ar hugain diwethaf. Mae ei gerddoriaeth ddramatig, heriol, yn cyfuno llais personol clir gyda thechneg hynod ddisgybledig ond hyblyg sydd wedi’i gwreiddio mewn ymwybyddiaeth dreiddgar o’r gorffennol. Mae ei waith hyd yma (gan gynnwys llif cyson o gomisynau pwysig) wedi’i glywed mewn cyngherddau ac ar y radio ym mhob cwr o wledydd Prydain ac mewn mwy na deugain o wledydd yn fyd eang. Mae llawer wedi’u cyhoeddi a’u recordio i’w rhyddhau dros y byd i gyd. www.francispott.com

WORD: Cyflwyniad y Cyfansoddwr o’i Recordiad

Dilyniant yw WORD o fyfyrdodau cerddorol ar yr Efengyl yn yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer corau cymysg a’r organ, gan osod gyda’i gilydd adnodau o Ragair Sant Ioan a cherddi R S Thomas.

Bydd Francis yn rhannu ei syniadau ynghylch heriau cyfansoddi’r gwaith hwn, yn enwedig defnyddio canu rhydd Thomas gyda geiriau Efengyl Ioan.

Cafodd ei pherfformio gan Commotio yng Ngholeg Keeble, Caergrawnt fis Medi 2018 a’i recordio fis Mawrth 2019 ar gyfer ei rhyddhau yn yr haf 2020. Mae Francis yn ddiolchgar i rai aelodau Cymdeithas RS Thomas ac ME Eldridge am noddi’n bersonol y recordiad o WORD. [Naxos 8.573976]

Ian M Parr ymddeolodd o’r diwydiant cemegol yn 2010. Mae wedi cyhoeddi barddoniaeth a chaneuon am fwy na 50 mlynedd. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn trefnu, yn helpu ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau a chyhoeddi barddoniaeth, yn bennaf yn ardal Sir Amwythig a Sir Caer. Mae ei waith wedi’i gynnwys yn ddiweddar mewn sawl casgliad o farddoniaeth. Mae peth o’i waith yn cynnwys cyfeiriadau ac ymatebion i feirdd fel Gerard Manley Hopkins, WB Yeats, John Clare ac, wrth gwrs, RS Thomas.

Ysgrifennu Gyda’n Gilydd: Geiriau a Dŵr

Bydd Ian yn hyrwyddo’r digwyddiadau Ysgrifennu gyda’n Gilydd gyda Philip Gross ddydd Gwener.

Dane Briscoe, artist ifanc yn gweithio ar hyn o bryd yn y Slade School of Fine Art, UCL. Cafodd ei fagu yn Hen Golwyn. Mae’n gweithio’n bennaf gyda cherfluniau, perfformio a ffotograffiaeth, ac yn aml yn ychwanegu ysgafnder at ei waith. Mae’n cael ei denu gan y syniad o hunaniaeth ddiwylliannol, sy’n cael ei wreiddio yn ei waith. Cafodd hadau ei ysbrydoliaeth eu hau drwy archwilio llenyddiaeth. Mae ei waith wedi’i ddangos yn Arddangosfa Galeri 19, Caernarfon ac yn Golwg, y cylchgrawn Cymraeg gyda’r cylchrediad mwyaf.

Arddangosfa Llanw a Threigl Amser – Bardd

Bardd yw un o gyfres o bortreadau perfformiadol, ffotograffig lle mae Dane wedi’i wisgo fel R S Thomas. Dylanwadodd y cyfaredd y mae’n ei deimlo at y Cyfnod Rhamantaidd ar y darn a hefyd waith yr artist Rhamantaidd Caspar David Friedrich a barddoniaeth R S Thomas. Tynnwyd y ffotograff pan oedd yn ugain oed.

I Fardd Ifanc

Am yr ugain mlynedd cyntaf rwyt ti’n dal i dyfu,

Yn gorfforol, ynte, fel bardd, wrth gwrs,

Rwyt ti’n dal heb dy eni.”

Liz Mellor, artist yn byw ger Croesoswallt. Roedd yn rhan o’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y gallai campwaith mawr, ME Eldridge, The Dance of Life, gael ei golli pan gyhoeddwyd bod bwriad i ddymchwel yr adeilad lle’r oedd y paneli. Gellir gweld gwaith Liz ar http://www.borderlandvisualarts.com

Arddangosfa Llanw a Threigl Amser: Llanw – Gwaith y Môr

Mae ei chelf yn yr arddangosfa hon ynghylch y môr, goleuni a thragwyddoldeb. Mae’n cael ei hysbrydoli gan lwybrau’r pererinion ar arfordir a chan fannau ysbrydol Llŷn. Mae cerdd Thomas The Moon in Lleyn yn taro tant arbennig…. These very seas/ are baptised.

Ffion Wood, telynores ifanc, dalentog hynod hunanfeddiannol a hyderus am ei hoed. Mae wedi chwarae mewn llawer o wahanol fannau o Eisteddfodau i Gapeli, Tŷ Crwn Celtaidd i briodasau Eglwysig. Bydd yn chwarae’r delyn fel gwrthbwynt i’r eiriau’r “Beirdd o Gwmpas y Tân” nos Wener